Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
CELG(4)-05-11 : Papur
2
Papur
tystiolaeth ar y Gyllideb Ddrafft:
Y Gweinidog
Tai, Adfywio a Threftadaeth
Cyflwyniad
- Mae’r papur hwn yn rhoi
gwybodaeth gefndir ariannol i’r Pwyllgor ynghylch y
cynlluniau gwario ar gyfer y rhannau hynny o bortffolio’r
Gweinidog sy’n ymwneud â Thai a Threftadaeth, fel yr
amlinellir yn y Gyllideb Ddrafft.
- Yn Atodiad A mae gwybodaeth
fanylach am y Gyllideb Ddrafft, fesul Cam Gweithredu a’r BEL
o fewn pob Cam Gweithredu. Mae hefyd yn cynnwys y cyllidebau
drafft ar gyfer y rhan honno o’r portffolio sy’n
ymwneud ag Adfywio, sy’n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor
Menter a Busnes.
Cefndir a Chrynodeb
- Gellir crynhoi ffigurau’r
gyllideb ddrafft ar gyfer y meysydd hynny sy’n rhan o gylch
gwaith y Pwyllgor hwn fel a ganlyn:
Maes
y Rhaglen Wariant
|
Llinell
Sylfaen
2011-12
£’000
|
Cyllideb
Ddrafft
2012-13
£’000
|
Cynlluniau
Dangosol
2013-14
£’000
|
Cynlluniau
Dangosol
2014-15
£’000
|
Refeniw:
|
|
|
|
|
Amgueddfeydd, archifau a
llyfrgelloedd
|
38,191
|
37,436
|
37,445
|
37,445
|
Y celfyddydau
|
39,428
|
38,782
|
39,569
|
39,569
|
Chwaraeon a gweithgaredd
corfforol
|
25,437
|
24,923
|
24,853
|
24,899
|
Yr amgylchedd
hanesyddol
|
11,712
|
11,658
|
11,541
|
11,541
|
Cyfanswm Treftadaeth
|
114,768
|
112,799
|
113,408
|
113,454
|
Tai
|
154,765
|
151,147
|
151,792
|
151,792
|
CYFANSWM REFENIW
|
269,533
|
263,946
|
265,200
|
265,246
|
|
|
|
|
|
Cyfalaf:
|
|
|
|
|
Amgueddfeydd, archifau a
llyfrgelloedd
|
5,673
|
4,973
|
4,043
|
4,043
|
Y celfyddydau
|
485
|
480
|
475
|
475
|
Chwaraeon a gweithgaredd
corfforol
|
345
|
345
|
345
|
345
|
Yr amgylchedd
hanesyddol
|
5,500
|
5,313
|
5,031
|
5,031
|
Cyfanswm Treftadaeth
|
12,003
|
11,111
|
9,894
|
9,894
|
Tai
|
249,392
|
231,970
|
206,782
|
206,782
|
CYFANSWM CYFALAF
|
261,395
|
243,081
|
216,676
|
216,676
|
|
|
|
|
|
CYFANSWM Y GYLLIDEB*
|
530,928
|
507,027
|
481,876
|
481,922
|
* Nid yw’r
ffigurau hyn yn cynnwys cyllidebau Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Ceir y manylion isod.
4.
Un
‘ysgafn’ fu proses y gyllideb eleni. O gymharu
â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb
Derfynol y llynedd (fel y cafodd ei hailddatgan ar gyfer y
newidiadau portffolio), mae cyfanswm y dyraniad ar gyfer Tai a
Threftadaeth wedi cynyddu £0.353 miliwn yn 2012-13 a
£0.621 miliwn yn 2013-14. Mae’r cynllun dangosol
ar gyfer 2014-15, a gyhoeddir am y tro cyntaf, yn cynnwys
£0.046 miliwn yn ychwanegol uwchlaw ffigur
2013-14.
- Mae’r cyllidebau
ychwanegol yn ymwneud â:
·
Dyraniadau
ychwanegol i gostau rhedeg Cadw o £0.353 miliwn yn 2012-13, a
fydd yn codi i £0.621 miliwn yn 2014-15, gan gydnabod ei
rôl o ran darparu gwasanaethau rheng flaen sy’n dod
â budd i dwristiaeth, addysg a datblygu cynaliadwy ehangach;
a
·
Swm ychwanegol o
£0.046 miliwn yn 2014-15 ar gyfer yr ymrwymiad i Nofio am
Ddim.
Y Rhaglen Lywodraethu
- Mae gan yr Adran gylch gwaith
eang. Mae’n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni
polisïau ar dai, adfywio, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon
a hamdden egnïol, amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd,
a’r amgylchedd hanesyddol.
- Mae gan yr adran sawl prif nod a
adlewyrchir yn y Rhaglen Lywodraethu drwyddi draw. Dengys y
gyllideb hon sut y byddwn yn cyflawni yn 2012-13 a thu hwnt.
Byddwn yn sicrhau bod gan bobl gartrefi cynnes a diogel o’r
radd flaenaf i fyw ynddynt. Daw effaith ein hymyriadau yn y maes
hwn yn amlycach dros y tymor hir wrth i ni wneud newidiadau i
ddeddfwriaeth gynllunio ac wrth i ni ehangu ein stoc o dai
cymdeithasol. Yn y tymor byr, fodd bynnag, bydd dylanwadau
economaidd fel polisi cyllidol ac ariannol y DU yn cael effaith
fawr ar ein llwyddiant cyffredinol.
- Byddwn yn parhau i gefnogi
diwylliant a threftadaeth Cymru i ddarparu gwell sylfaen i fywyd
drwy hybu ffyniant lleoedd, diwylliant, chwaraeon a’r
cyfryngau.
Tai
- Y llynedd, cyhoeddwyd ein
strategaeth dai genedlaethol Gwella Bywydau a Chymunedau –
Cartrefi yng Nghymru. Ynddi yr oeddem yn pennu’n
blaenoriaethau strategol ar gyfer tai, sef cynyddu’r
cyflenwad o dai, gwella eu hansawdd, a gwella gwasanaethau
sy’n gysylltiedig â thai – yn enwedig yn achos
pobl agored i niwed neu’n ddigartref.
Cynyddu’r cyflenwad o
dai
- Rydym yn awyddus i fynd
i’r afael â materion sy’n ymwneud â'r
cyflenwad o dai er mwyn bodloni’r galw a chynyddu nifer y tai
fforddiadwy. Bydd hynny hefyd yn help i fynd i’r afael
â digartrefedd. Rydym yn buddsoddi cyfanswm o £57
miliwn (cyfalaf o £55 miliwn a refeniw o £2
filiwn) yn y Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol yn 2011-12. Bydd y
ffigur hwn yn gostwng i ryw £46 miliwn yn y dyfodol. Serch
hynny, mae’n bwysig cofio’r twf yn y rhaglen hon yn y
blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â’r cyllid ychwanegol
o £62 miliwn a ddarparwyd o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf
Strategol.
- Hefyd, ac mewn ymateb i’r
gostyngiad yn y cyllidebau cyfalaf, rydym yn ystyried dulliau
arloesol newydd o gynyddu’r cyflenwad gyda chynnyrch megis
“Rhent Cyntaf” – tai gyda rhent canolradd sydd
angen llai o grant tai cymdeithasol i’w datblygu; a
Phartneriaeth Tai Cymru a lansiwyd yn ddiweddar –
partneriaeth gyda chymdeithasau tai sy’n buddsoddi
ecwiti.
Ansawdd tai
- Un o flaenoriaethau allweddol
Llywodraeth Cymru yw sicrhau fod gan bobl gartref sy’n
bodloni eu hanghenion - cynnes, fforddiadwy, diogel, mewn
cyflwr da, nad yw’n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd.
Mae tŷ yn annatod i fywydau pobl. Mae’n effeithio ar
iechyd a lles, ansawdd bywyd, a chyfleoedd unigolion a theuluoedd
gydol eu hoes. Dyna pam yr wyf yn cadw’r Lwfans Atgyweiriadau
Mawr ar £108 miliwn y flwyddyn. Mae’r gyllideb
hon yn ariannu atgyweiriadau mawr i dai awdurdodau lleol, a
thaliadau gwaddoli ar gyfer tai a arferai fod ym meddiant yr
awdurdodau lleol ond sydd bellach wedi’u trosglwyddo i
landlordiaid newydd. Mae’r ddwy ffrwd ariannu hon yn
helpu i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, sy’n anelu at
sicrhau fod y stoc o dai cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer
yr 21ain ganrif.
Gwasanaethau sy’n
gysylltiedig â thai
- Rydym hefyd yn parhau i
fuddsoddi dros £130 miliwn y flwyddyn mewn cymorth sy’n
gysylltiedig â thai i bobl agored i niwed drwy’r
Rhaglen Cefnogi Pobl. Mae hyn yn flaenoriaeth os ydym i fynd
i’r afael ag effaith y diwygiadau lles a’r cyni
economaidd. Mae’r rhaglen yn cefnogi 50,000 o bobl y
flwyddyn ac yn rhoi gwerth da am arian am bob punt a wariwn yng
Nghymru. Rydym hefyd yn ymrwymedig i atal digartrefedd,
sy’n un o’r enghreifftiau gwaethaf o
amddifadedd.
- Mae galluogi pobl i fyw’n
annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd hefyd yn
flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a dyna pam yr ydym wedi diogelu ein
buddsoddiad yn y Rhaglen Addasiadau Brys. Mae’r rhaglen
hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar y GIG a gwasanaethau
cymdeithasol drwy alluogi pobl i adael yr ysbyty neu ofal preswyl
cyn gynted ag y bo modd.
- O fewn y cyllidebau Tai, mae
llinell yn y gyllideb ar gyfer cyllid cyfalaf cyffredinol
awdurdodau lleol, sy’n gyfanswm o £47.2 miliwn yn
2012-13. Nid yw’r arian hwn wedi’i neilltuo, ac
felly, wedi iddo gael ei ddosbarthu i’r awdurdodau lleol fel
rhan o’r setliad llywodraeth leol, nid oes modd i ni roi
cyfarwyddyd ynghylch sut i’w wario.
Treftadaeth
- Mae rhoi gwell
sylfaen i fywyd drwy sicrhau ffyniant lleoedd, diwylliant,
chwaraeon a’r cyfryngau yn un o brif flaenoriaethau
Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i roi cymorth ariannol i
Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Chwaraeon Cymru a Cadw.
- Rydym yn sylweddoli
mor bwysig yw’r celfyddydau i Gymru a’r cyfraniad y
gallant ei wneud i ansawdd bywydau pobl. Dyna pam yr ydym yn
parhau i ddiogelu’r cyllid ar gyfer y celfyddydau yn y
Gyllideb hon. Byddwn hefyd yn parhau i roi cymorth ariannol i
Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
- Bydd y cymorth a
roddwn i Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ein
galluogi i barhau i roi mynediad am ddim i safleoedd yr Amgueddfa
Genedlaethol. Byddwn hefyd yn parhau i roi cymorth ariannol ac
arweiniad strategol i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd drwy
CyMAL gan gydnabod y cyfraniad sylweddol y mae’r gwasanaethau
hyn yn ei wneud i gymunedau lleol o ran mynediad at wybodaeth a
threftadaeth ddiwylliannol, a’u rôl o ran cefnogi
twristiaeth yng Nghymru.
- Cadw yw gwasanaeth amgylchedd
hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae Cadw yn gyfrifol am warchod y
dreftadaeth hon, sy’n cynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd,
adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig. Mae Cadw hefyd
yn gweithio i gynnal cymeriad unigryw ein trefi a’n tirwedd
ac yn helpu pobl ddeall a gofalu am eu lleoliad a’u
hanes. Rydym yn cydnabod mor bwysig yw’r cyfraniad hwn
yn economaidd ac yn gymdeithasol ac rydym yn ymrwymedig i’w
rhaglen barhaus o waith.
- Hefyd, rydym yn ymrwymedig i
gyflawni’r Prosiect Twristiaeth £19 miliwn, a fydd yn
gwella cwmpas llawer o’n henebion a phrofiadau ein
hymwelwyr. Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Cydgyfeirio’r
Undeb Ewropeaidd sy’n ariannu’r prosiect yn
bennaf. Bydd yn helpu i wneud yn fawr o werth economaidd ein
treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth yr ymweliadau â
Chymru. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i wneud treftadaeth
ragorol Cymru yn agored i gynulleidfa ehangach drwy ei gwneud yn
fwy pleserus i ymwelwyr a phobl sy’n byw yng Nghymru. Cadw
sy’n arwain y prosiect wedi iddo wneud cais llwyddiannus am
Gyllid Cydgyfeirio. Bydd y prosiect yn rhedeg tan fis Rhagfyr
2014 ac mae’n werth cyfanswm o £19 miliwn. Mae
rhan o raglen gwaith cyfalaf Cadw yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer
y prosiect hwn.
- Yr ydym hefyd yn cydnabod y
manteision lu a all ddod yn sgil chwaraeon a gweithgaredd corfforol
ar wahanol lefelau, gan gynnwys gwell iechyd a lles i
unigolion. I gefnogi hyn, rydym yn ymrwymedig i barhau
â’n hymrwymiad i nofio am ddim, ac rydym wedi darparu
cyllid ychwanegol o £46k yn 2014-15 i gynnal y
ddarpariaeth.
Gwariant a Reolir yn
Flynyddol
- Mae’r cyllidebau Gwariant
a Reolir yn Flynyddol yn cynnwys:
·
Darpariaeth ar gyfer
unrhyw daliadau pensiwn a all fod yn angenrheidiol yn achos
cynlluniau pensiwn Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell
Genedlaethol Cymru. Y cyfanswm ar gyfer 2012-13 yw £2.490
miliwn. Cyllideb heb fod yn arian parod yw hon;
·
Credyd - o
£61 miliwn yn 2012-13 - sy’n cynrychioli’r swm, a
gyfrifwyd ar sail fformiwla, y mae angen i Awdurdodau Lleol Cymru
ei ad-dalu i’r Trysorlys yn achos y system Cymhorthdal y
Cyfrif Refeniw Tai (HRAS). Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol wedi
prynu eu hunain allan o’r system, ac rydym ar hyn o bryd yn
ystyried y posibilrwydd o wneud yr un modd yng Nghymru.